Home » Rhoddion Personoledig » Y Ladi Gymreig

Y Ladi Gymreig

Hoffem gyflwyno ein detholiad newydd o ladis Tartan Cymreig, y mae dim ond nifer gyfyngedig ohonynt wedi cael eu cynhyrchu.
Mae pob Ladi yn gwisgo sgert o dartan teuluol Cymreig. Caiff y brethyn ei wehyddu ym Melin Wlân Cambria yn Llanwrtyd, Canolbarth Cymru (wedi’i drwyddedu i’r Ganolfan Tartan Cymreig).
Mae’n casgliad yn cynnwys yr enwau teuluol Cymreig canlynol; Jones, Davies, Evans, Williams a Thomas. Rydym yn defnyddio tartan Dewi Sant hefyd.
Mae gan bob un o’r Ladis rif unigryw a bydd pob un yn dod gyda thystysgrif sy’n profi ei dilysrwydd.
Daeth y ddelwedd gyfarwydd o’r Ladi Gymreig yn boblogaidd yn gynnar yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn y lle cyntaf. Gwisgwyd y wisg hon yn ardaloedd gwledig Cymru yn bennaf, ac fe’i defnyddiwyd er mwyn diwygio’r diwylliant Cymreig mewn cyfnod pan oedd ein traddodiadau mewn perygl o fynd yn angof. Fe’i gwisgwyd gyda balchder i hyrwyddo treftadaeth a diwylliant Cymreig.
Roedd y wisg yn cynnwys het ddu uchel, pais wlanen streipiog, gŵn bach agored gyda gwlanen ar y tu blaen, ffedog, siôl a chap. Cyn bo hir, mabwysiadwyd hon fel Gwisg Genedlaethol Cymru ac fe’i gwisgwyd mewn eisteddfodau, eglwysi, capeli ac yn ystod digwyddiadau pwysig eraill. Cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, fe’i gwisgwyd gan ferched i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yng Nghymru ac mae’r traddodiad hwn yn parhau hyd heddiw.

Showing all 6 results