Home » Newyddion » Mae’r merched wedi cyrraedd

Mae’r merched wedi cyrraedd

Hoffem gyflwyno ein detholiad newydd o ladis Tartan Cymreig, y mae dim ond nifer gyfyngedig ohonynt wedi cael eu cynhyrchu.

27_01_2016_Bodoli_63

Mae pob Ladi yn gwisgo sgert o dartan teuluol Cymreig. Caiff y brethyn ei wehyddu ym Melin Wlân Cambria yn Llanwrtyd, Canolbarth Cymru (wedi’i drwyddedu i’r Ganolfan Tartan Cymreig).

27_01_2016_Bodoli_59-2

Mae’n casgliad yn cynnwys yr enwau teuluol Cymreig canlynol; Jones, Davies, Evans, Williams a Thomas.  Rydym yn defnyddio tartan Dewi Sant hefyd.

Mae gan bob un o’r Ladis rif unigryw a bydd pob un yn dod gyda thystysgrif sy’n profi ei dilysrwydd.

27_01_2016_Bodoli_36

 

Byddwn yn cynhyrchu 100 o bob dyluniad. Fydd rhain ar gael i brynnu ar Dydd Gwyl Dewi ymlaen.Yn y pen draw, bydd yr holl gyfenwau Cymreig y mae ganddynt eu tartan eu hunain ar gael yn y detholiad hwn.  Os hoffech archebu eich un chi ymlaen llaw nawr, cysylltwch â BODOLI trwy anfon e-bost at [email protected] neu ffonio 07967 103 275.