“Dwi’n chwaer, yn ferch, yn wyres, yn gyfnither ac yn ffrind. Fy nheulu a fy ffrindiau yw’r pethau pwysicaf i fi, a dyna pam dwi wrth fy modd yn creu darnau arbennig sy’n dal naws a hanfod cyfeillgarwch a theulu.
Ers pan oeddwn i’n blentyn bach, dwi wedi dwlu ar greu a chynhyrchu pob math o grefftau gyda fy mam, ac roeddwn i’n creu a dylunio rhywbeth newydd o hyd. Dwi’n cofio gwneud sebonau bach un ‘Dolig, a llun botwm arbennig i fy annwyl Hen Famgu. Dwi’n dal i fwynhau bod yn greadigol, ac ar hyn o bryd dwi’n astudio ffasiwn a thecstilau ar gyfer TGAU. Un diwrnod hoffwn i gynllunio ffrogiau, ac efallai cael fy mrand ffasiwn fy hun.
Mae Bodoli yn rhoi cyfle i fi fod yn greadigol, ac hefyd yn fodd i fi ddysgu sut mae rheoli busnes.
Gan fod fy mywyd ysgol yn bwysig i fi hefyd, mae fy nyddiau i’n llawn dop! Dwi’n codi’n gynnar er mwyn gweithio ar y busnes cyn mynd i’r ysgol, yna’n gwneud gwaith cartref ar ôl ysgol, cyn troi’n ôl at waith Bodoli gyda’r nos. Dwi’n teimlo fod hyn yn ffordd wych i ymlacio ar ôl diwrnod hir.”