Home » Newyddion » Penblwydd Hapus BODOLI

Penblwydd Hapus BODOLI

Wel, helo ‘na!!!

Rydym yn dathlu ein penblwydd heddiw yn 1 oed. Wel, mae amser wedi hedfan dros y flwyddyn diwethaf. Hefyd nifer o ddatblygiadau ers dechreuodd y cwmni i greu fframau personoledig i gynnig fframau, gemwaith a llwyau wedi personoli ac erbyn hyn partion i blant ag oedolion ac hefyd gweithdai.

Rydym yn cynnal gweithdai BODOLI unwaith y mis i blant o bob oedran fynychu i greu eu fframyn cerrig bychain eu hun mewn gweithdy BODOLI yng Nghastell Newydd Emlyn.

        13076523_1729218967321767_3216317257775213395_n

         2016-04-29 20.49.24-2

Dyma ddyddiadau nesaf gweithdai BODOLI , os mae diddordeb gyda chi fynychu danfonwch ebost at [email protected]

14.5.16 Dydd Sadwrn

1.6.16 Dydd Mercher Hanner Tymor

9.7.16 Dydd Sadwrn

17.8.16 Bechgyn yn unig. Dydd Mercher Gwyliau’r Haf

24.8.16 Dydd Mercher Gwyliau’r Haf

Bach o newyddion cyffrous i chi, fe fydd fframau BODOLI ar stondyn FFab / Gomer yn Eisteddfod yr Urdd 2016 felly ewch am dro os ydych yno. Bydd anrhegion addas ar gyfer penblwydd, Cartref Newydd, Ffrindiau, Babi Newydd ac heb anghofio fframau Sali Mali a Jac y Jwc.

2016-04-29 20.49.24

Rydym nawr yn gwerthu fframau BODOLI yn Siop Mirsi, Pwllheli a Siop Bodlon yn yr Hen Lyfrgell, Caerdydd.

Cofiwch bod Sul y Tadau mis nesaf ar Ddydd Sul 19 Mehefin, dyma rai syniadau am anrhegion Sul y Tadau.

Rygbi RugbySuper

I ddathlu ein penblwydd yn 1 oed rydym yn cynnig gostyngiad o 15% ar ein fframau a llwyau gan ddefnyddio Horray1. Os nad ydych yn gallu gweld beth chi’n edrych amdano arlein, danfonwch neges aton ni a wnewn ni yn siwr ein bod yn creu darlun addas ar eich cyfer a chynnwys y gostyngiad o 15%. Cynnig yn gorffen 31.5.16

www.bodoli.co.uk

Hwyl am y tro,

BODOLI