Home » Newyddion » BODOLI 10% i ffwrdd o siopa Nadolig

BODOLI 10% i ffwrdd o siopa Nadolig

Ma hi bendant yn Hydref, mae’r dail wedi troi lliw ac y mae’r boreau yn rewllyd. Anodd credu ble mae’r Haf wedi mynd.

Roedd ein Haf ni wedi eu dreulio yn mwynhau llawer o ddyddiau allan i drefi arfordirol o amgylch Gorllewin Cymru. Y mae BODOLI wedi cael eu ysbrydoli o gael eu hamgylchynu gan rai mannau lliwgar arbennig iawn i greu casgliad ‘Ein Trefi’.

Rydym wedi dod a cherrig mân yn fyw gan ddefnyddio lliwiau unigryw bywiog i greu trefi adnabyddus hyn.

Byddant yn sicr o fywiogi eich cartref ac yn creu teimlad o hiraeth tuag at y trefi unigryw yr ydym i gyd yn caru ymweld. Gallwn greu unrhyw dref y dymunwch; y mae’r casgliad eisioes yn cynnwys Conwy, Llandudno, Castell Newydd Emlyn ac Aberteifi. Cliciwch yma i weld y casgliad.

www.bodoli.co.uk/cy/categori-eitem/rhoddion-personoledig/ein-trefi/

aberaeron-2 our-towns-1 aberaeron-1our-towns-2

Arddangosom yn yr Eisteddfod Genedlaethol unwaith eto yn Y Fenni. Roedd yn hyfryd i gwrdd â chwsmeriaid newydd a dal i fyny gyda hen gwsmeriaid. Gwnaeth ein rhifyn cyfyngedig Ladis Cymreig mwynhau eu hamser yn yr Eisteddfod. Yn y Fenni lle mae’r wisg Gymreig yn tarddu gyda Ladi Lanover. Mae bron gennym y set gyflawn o’r dartan Gymreig ar gyfer y ladis, felly peidiwch â cholli allan a chael eich un chi. Dim ond 100 o bob un sydd yn cael eu greu.

Mae ein gweithdai yn dal i fod yn boblogaidd iawn, nid yn unig i blant ond hefyd oedolion. Cafodd gweithdy oedolion cyntaf eu redeg y penwythnos diwethaf. Roedd yn llawer o hwyl. Gwnaeth rhai 3 ffrâm yr un fel y anrhegion Nadolig. Os oes gennych diddordeb yn ein gweithdai e-bostiwch ni [email protected].

Ydych chi wedi dechrau eich siopa Nadolig eto? Wel os nad ydych mae gennym cynnig arbennig i chi, 10% i ffwrdd o holl gynnyrch tan ddiwedd mis Hydref gan ddefnydio côd siopadolig10.

Dyma rai syniadau i chi ar gyfer anrhegion Nadolig.

Christmas Robins Birds Pebble Art Gift Frame Our Family Teulu Ni Pebble Art

Bodoli Jewellery Personalised Ring Necklace

Hefyd mae gennym noswaith merched ar yr 11eg o Dachwedd yn y gweithdy yng Nghastell Newydd Emlyn am 7yh-10yh ble cewch 10% i ffwrdd, gwydraid o ddiod swigod am ddim, danteithion a chyfle i ennill hamper BODOLI. Gobeithio eich gweld ar y noson.

Dyna ni am y tro, well mynd nôl ati i beintio tai prydferth, siaradwn yn fuan.

 

Tîm BODOLI.