Home » Newyddion » Briodferched a BODOLI

Briodferched a BODOLI

Cawsom ddiwrnod hyfryd yn cwrdd â phriodferched prydferth yn y Ffair Briodas Dydd Sul yng ngwesty Llwyn Iorwg yng Nghaerfyrddin. Mae’r digwyddiad arbennig yma yn rhoi cyfle i fusnesau lleol i hyrwyddo’u busnesau ac i gynnig eu gwasanaethau mewn partion priodas. Roeddwn yn ffodus i gael stondin ac i arddangos ein nwyddau. Y newyddion cyffrous oedd bod BODOLI wedi ehangu ac hybu nwyddau newydd ar gyfer priodasau. Mae priodferched yn edrych am rywbeth newydd a gwahanol trwy’r amser, felly roedd gennym ni anrhegion unigryw fel balm gwefus organig, olew eillio organig, llwyau wedi stampio a siocledi wedi’u printio. Roedden nhw i gyd yn boblogaidd iawn ynghyd â’r ffram briodas i arwyddo gyda’r briodferched. https://www.bodoli.co.uk/cy/product/wedding-signing-frame/

Yn well na lyfr mewn bocs yn yr atig yn llawn negeseuon, arddangoswch y negeseuon mewn ffram personol yn eich cartref fel atgof o’r diwrnod arbennig. Rydyn ni nawr yn cynnig gostyngiadau ar lwyau fel rhoddion, felly os ydych yn hoffi’r llwyau yma, gallwch cael enwau y gwesteion wedi’u stampio a rhoi rhywbeth arbennig iddyn nhw fel ffordd o ddweud diolch. Ydych chi’n cael ffwdan i brynu anrheg ar gyfer y gwas priodas neu tad y priodfab? Rydyn ni nawr yn gwerthu dolennau llewys arian personoledig. Byddwch yn draddodiadol a chael llythrennau arnyn nhw neu byddwch yn fentrus? https://www.bodoli.co.uk/cy/product/dolennau-llewys-arian/

Edrychwch ar ein gwefan ar gyfer mwy o roddion priodas. https://www.bodoli.co.uk/cy/categori-cynnyrch/rhoddion-priodas/