Home » Newyddion » Teithiau , Coffi a Chacen

Teithiau , Coffi a Chacen

Rydym wedi bod ar sawl taith diddorol yn y car i drosglwyddo fframau BODOLI ar draws Cymru.

Mae siop BODLON wedi cael ei disgrifio fel y lle orau i gwrdd ,bwyta a siopa yng Nghaerdydd. Wedi ‘i leoli yng nghanol Yr Eglwys Newydd, dyma siop sy’n denu cwsmeriaid ar draws y byd yn cynnwys enwogion fel Mathew Rhys a’r delynores talentog Catrin Finch. Mae yna amrywiaeth o anrhegion Cymreig hardd a phethau i’r cartref ar werth yn y siop, felly’r tro nesaf rydych chi yng Nghaerdydd gwnewch yn siwr eich bod yn ymweld â Bodlon. www.bodlon.co.uk

Mae Lowri Steffan wedi ail agor siop Dots yn Aberystwyth. Mae nifer o bobl lleol yn gyffrous iawn i weld y siop ffantastig yma yn ail agor. Wnaeth Dots agor ei ddrysau i’r cyhoedd heddiw. Mae yna casgliad enfawr o fframau BODOLI yn cael eu arddangos yn y siop, ac rydym yn edrych ymlaen i hybu ein fframau arwyddo priodas yna hefyd. Mae Dots yn cynnig steilio ar gyfer priodasau ac hefyd yn hurio pethau priodasol. www.stiwdiodots.co.uk

Sgwn i le fydd ein taith nesaf?