Home » Newyddion » BODOLI yn helpu codi £840 i Ysbyty Tywysog Philip

BODOLI yn helpu codi £840 i Ysbyty Tywysog Philip

Dyna beth oedd wythnos cyffrous iawn yn dathlu Cymru yn ennill eu gemau yng Nghwpan y Byd Rygbi. Cefais y fraint o gwrdd â seren rygbi lleol, Gareth Davies a wnaeth sgorio yr unig cais yn y gêm yn erbyn Lloegr a chais cyntaf yn erbyn Fiji. Fe wnaeth Gareth Davies cytuno i arwyddo fframau ar gyfer achos dda. Fe wnes i hefyd cwrdd a’i gi enwog Pete, roedd e’n gyfeillgar iawn ac yn hoff o fy nhraed!!!!

Roedd Gwesty’r Emlyn yng Nghastell Newydd Emlyn yn cynnal noson Menywod “Think Pink” ar Nos Wener yr 2ail o Hydref i godi arian i Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli. Roedd y noson yn llwyddiannus iawn gyda nifer o fenywod lleol yn cefnogi’r noson.

IMG_1024

 

 

 

 

Roedd dau fframyn rygbi wedi arwyddo yn yr ocsiwn gan Bodoli, wnaeth un cael ei werthu am £220 a’r llall am £185. Roedd tair fenyw arall eisiau’r un fframyn felly bydd rhaid i BODOLI cwrdd â Graeth Davies unwaith eto i’w arwyddo. Roedd cyfanswm y fframau wedi codi £840 tuag at Uned Cancr y Fron yn Llanelli.

Roedd BODOLI yn falch i gefnogi elusen lleol o’r fath.