Home » Newyddion » BODOLI yn cwrdd a seren Byd Rygbi Cymru Ken Owens

BODOLI yn cwrdd a seren Byd Rygbi Cymru Ken Owens

Mae’r misoedd diwethaf wedi hedfan?  Rydym wedi cael Haf prysur iawn gyda’r Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod, lle y gwnaethom gyfarfod rhai cwsmeriaid newydd hyfryd, enwogion a ffrindiau.  Heb os, byddwn yn mynd i’r Eisteddfod Genedlaethol unwaith eto flwyddyn nesaf – os bydd fy ffrindiau da a’m teulu yn fodlon helpu eto.  Roedd gwneud y trefniadau ar gyfer y plant gartref yn dipyn o dasg, ond aeth popeth yn esmwyth.  Roeddent yn ymddangos yn ddigon hapus ar ôl i mi ddod gartref, er bod fy mab, Iari, sy’n 5 oed, wedi dweud nad yw Dad yn gallu coginio!  Wel, mae gan dad flwyddyn i ymarfer nawr.

Roeddem wrth ein bodd i lansio ein gwefan yn yr Eisteddfod hefyd, a wnaeth arwain at nifer fawr o archebion ar-lein, yr oeddent oll yn aros amdanaf ar ôl i mi ddychwelyd i’n gweithdy.

Rugby pebble frame

Fel rhan o’n gwaith hyrwyddo yn yr Eisteddfod, buom yn ddigon ffodus i gael ffrâm wedi’i llofnodi gan garfan Hyfforddi Undeb Rygbi Cymru 2015, ac roedd hon yn wobr wych ac unigryw ar gyfer enillydd ein raffl. 

Diolch i Ken Owens am ddewis y tocyn buddugol ac mae modd i chi weld ei fideo yma 

Gwnaethom fynychu Digwyddiad a gynhaliwyd gan Ffermwyr Ifanc Ceredigion i ddathlu ffermio yr wythnos diwethaf.  Roedd yn wych.  Roedd amrediad o gynhyrchwyr bwyd a chrefftau yno, ac roedd yn gyfle i’r cyhoedd gael ymdeimlad o fywyd ffermwr.

Roedd y fframiau ffermio yn boblogaidd iawn…

Tractor Handmade Pebble Art Frame of a Farmer and Cow

Wrth ysgrifennu hwn, rydw i’n ceisio cofio am y pethau eraill yr ydym wedi bod yn eu gwneud.  Gwneud trefniadau gyda siopau newydd a fydd yn gwerthu ein fframiau, labelu, ymgyfarwyddo gyda’r wefan a chynllunio digwyddiadau ar gyfer y Gaeaf.

Byddwn yn cynnal Noson i’r Merched yn ein gweithdy ar 30 Hydref, lle y bydd modd i gwsmeriaid alw heibio am wydraid o siampên a gweld ein cynhyrchion.  Yn ogystal, byddwn yn mynychu Gŵyl y Synhwyrau Llandeilo a’r Ffair Aeaf yn Llanelwedd.

Ac rydw i wedi addo y byddaf yn creu blog bob wythnos.  Gewn ni weld!!!!