Wel rydym wedi cael penwythnos cyffrous iawn gyda ein noson cyntaf ni ar gyfer y Ladis ar Nos Wener 30ain o Hydref. Daeth dros 60 o ladis i ymweld â’r gwiethdy ac hefyd i ddechrau eu siopa Nadolig. Cofiwch dimond 8 wythnos tan Nadolig. Os mae gennych unrhyw diddordeb yn y cynnyrch yma ewch i www.bodoli.co.uk neu danfonwch ebost i [email protected]
Ar y noson gwnaethon lawnsio rhai cynnyrch newydd sydd nawr ar werth gan BODOLI. Cynnyrch Harddwch Organeg gyda labeli Cymraeg. Mae’r setiau yn cynnwys Sgwrio’r Corff, Menyn Corff a Balm Dwylo mewn bag cotwn BODOLI am £16.50. Mae yna dau ddewis o rain Oren a Leim neu Oren, Rhosyn Mynawyd y Bugail a Phatsiwli. Mae hefyd gyda ni Balm gwefus yn Oren neu Lemon a Leim am £4.95 yr un.
Yn boblogaidd ar y noson oedd ‘Allwedd Hud Sion Corn’. Mae rhain yn gwerthu am £9.95. Anrheg lyfli ar gyfer eich plant i esbonio sut mae Sion Corn yn dod mewn i’r tŷ os nag oes simne gyda chi. Roedd sawl archeb wedi cael eu gwneud ar gyfer yr addurniadau coeden Nadoliog; llwyau wedi personoli gyda Nadolig Cyntaf (enw plentyn) 2015. Mae rhain yn £16.00 yr un.
Heb anghofio ein fframau poblogaidd. Roedd sawl dyn eira wedi cael cartref newydd ar ôl y noson. Mae rhain yn £55.00 yr un, eto gallwn personoli.
Fe fydd BODOLI ar agor yn hwyr Nos Iau 10, 17 o Rhagfyr ar gyfer siopa Nadolig funud olaf.Os mae gennych unrhyw diddordeb yn y cynnyrch yma ewch i www.bodoli.co.uk neu danfonwch ebost i [email protected]
Hwyl am y tro.