Penblwydd Hapus i ti, Penblwydd Hapus i ti!!!! Rydym nawr yn cynnig partïon plant BODOLI.
Cawsom llawer o sbort a sbri yn ein parti cyntaf gyda Casi a oedd yn 8 mlwydd oed. Daeth 13 o ferched yn llond brwdrydedd i greu eu darn o waith celf cerrig bychain eu hunain mewn ffram.
Buom yn addurno’r y gweithdy gyda baneru a balwns ar eu cyfer. Roedd pob plentyn yn cael gwisgo ffedog BODOLI cyn iddynt ddechrau.
Fe groesawodd BODOLI pawb i’r gweithdy, a dangos yr amrywiaeth o fframau roedd hi wedi creu. Dangosodd Rhiannon sut mae creu llun ac esbonio beth oedd y wahanol cerrig yn cael eu defnyddio ar gyfer.
Roedd y plant methu aros i ddechrau. Roedd syniadau gret gyda’r plant. Cawsom amrywiaeth o ddyluniau o Siôn Corn, i bêl droed i ein teulu ni. Cafodd y plant cyfle i ddewis cerrig eu hun, peintio, addurno gyda ffelt a darnau o bren.
Tra bod y gwaith yn sychu ar ôl gludo, cafodd y plant brechdannau (roedd mam Casi wedi paratoi) a chanu Penblwydd Hapus iddi.
Roedd y plant methu aros i rhoi fframyn am eu gwaith a roeddent wrth eu bodd gyda’r ffram a chael bag BODOLI i fynd adref gyda nhw.
Mae’r pecyn parti yn cynnwys gwahoddiadau, creu ffram, mynd adref a’r ffram a bag BODOLI, ystafell wedi addurno ar eich cyfer a diodydd yn ystod y parti. Mae parti fel arfer yn parhau am 2 awr a cost am 10 plentyn yw £150. Am fwy o wybodaeth am bartion plant neu i weld o am dyddiadau ar gael cysyllltwch â ni ar [email protected]
Rydym hefyd yn cynnal partion plu, neu parti’s ar gyfer oedolion- os ydych am creu un eich hun!!!
Hip-ip Hwre!!!