Home » Archives for Rhiannon Ling

By Rhiannon Ling

BODOLI 10% i ffwrdd o siopa Nadolig

Ma hi bendant yn Hydref, mae’r dail wedi troi lliw ac y mae’r boreau yn rewllyd. Anodd credu ble mae’r Haf wedi mynd.

Roedd ein Haf ni wedi eu dreulio yn mwynhau llawer o ddyddiau allan i drefi arfordirol o amgylch Gorllewin Cymru. Y mae BODOLI wedi cael eu ysbrydoli o gael eu hamgylchynu gan rai mannau lliwgar arbennig iawn i greu casgliad ‘Ein Trefi’.

Rydym wedi dod a cherrig mân yn fyw gan ddefnyddio lliwiau unigryw bywiog i greu trefi adnabyddus hyn.

Byddant yn sicr o fywiogi eich cartref ac yn creu teimlad o hiraeth tuag at y trefi unigryw yr ydym i gyd yn caru ymweld. Gallwn greu unrhyw dref y dymunwch; y mae’r casgliad eisioes yn cynnwys Conwy, Llandudno, Castell Newydd Emlyn ac Aberteifi. Cliciwch yma i weld y casgliad.

www.bodoli.co.uk/cy/categori-eitem/rhoddion-personoledig/ein-trefi/

aberaeron-2 our-towns-1 aberaeron-1our-towns-2

Arddangosom yn yr Eisteddfod Genedlaethol unwaith eto yn Y Fenni. Roedd yn hyfryd i gwrdd â chwsmeriaid newydd a dal i fyny gyda hen gwsmeriaid. Gwnaeth ein rhifyn cyfyngedig Ladis Cymreig mwynhau eu hamser yn yr Eisteddfod. Yn y Fenni lle mae’r wisg Gymreig yn tarddu gyda Ladi Lanover. Mae bron gennym y set gyflawn o’r dartan Gymreig ar gyfer y ladis, felly peidiwch â cholli allan a chael eich un chi. Dim ond 100 o bob un sydd yn cael eu greu.

Mae ein gweithdai yn dal i fod yn boblogaidd iawn, nid yn unig i blant ond hefyd oedolion. Cafodd gweithdy oedolion cyntaf eu redeg y penwythnos diwethaf. Roedd yn llawer o hwyl. Gwnaeth rhai 3 ffrâm yr un fel y anrhegion Nadolig. Os oes gennych diddordeb yn ein gweithdai e-bostiwch ni [email protected].

Ydych chi wedi dechrau eich siopa Nadolig eto? Wel os nad ydych mae gennym cynnig arbennig i chi, 10% i ffwrdd o holl gynnyrch tan ddiwedd mis Hydref gan ddefnydio côd siopadolig10.

Dyma rai syniadau i chi ar gyfer anrhegion Nadolig.

Christmas Robins Birds Pebble Art Gift Frame Our Family Teulu Ni Pebble Art

Bodoli Jewellery Personalised Ring Necklace

Hefyd mae gennym noswaith merched ar yr 11eg o Dachwedd yn y gweithdy yng Nghastell Newydd Emlyn am 7yh-10yh ble cewch 10% i ffwrdd, gwydraid o ddiod swigod am ddim, danteithion a chyfle i ennill hamper BODOLI. Gobeithio eich gweld ar y noson.

Dyna ni am y tro, well mynd nôl ati i beintio tai prydferth, siaradwn yn fuan.

 

Tîm BODOLI.

Penblwydd Hapus BODOLI

Wel, helo ‘na!!!

Rydym yn dathlu ein penblwydd heddiw yn 1 oed. Wel, mae amser wedi hedfan dros y flwyddyn diwethaf. Hefyd nifer o ddatblygiadau ers dechreuodd y cwmni i greu fframau personoledig i gynnig fframau, gemwaith a llwyau wedi personoli ac erbyn hyn partion i blant ag oedolion ac hefyd gweithdai.

Rydym yn cynnal gweithdai BODOLI unwaith y mis i blant o bob oedran fynychu i greu eu fframyn cerrig bychain eu hun mewn gweithdy BODOLI yng Nghastell Newydd Emlyn.

        13076523_1729218967321767_3216317257775213395_n

         2016-04-29 20.49.24-2

Dyma ddyddiadau nesaf gweithdai BODOLI , os mae diddordeb gyda chi fynychu danfonwch ebost at [email protected]

14.5.16 Dydd Sadwrn

1.6.16 Dydd Mercher Hanner Tymor

9.7.16 Dydd Sadwrn

17.8.16 Bechgyn yn unig. Dydd Mercher Gwyliau’r Haf

24.8.16 Dydd Mercher Gwyliau’r Haf

Bach o newyddion cyffrous i chi, fe fydd fframau BODOLI ar stondyn FFab / Gomer yn Eisteddfod yr Urdd 2016 felly ewch am dro os ydych yno. Bydd anrhegion addas ar gyfer penblwydd, Cartref Newydd, Ffrindiau, Babi Newydd ac heb anghofio fframau Sali Mali a Jac y Jwc.

2016-04-29 20.49.24

Rydym nawr yn gwerthu fframau BODOLI yn Siop Mirsi, Pwllheli a Siop Bodlon yn yr Hen Lyfrgell, Caerdydd.

Cofiwch bod Sul y Tadau mis nesaf ar Ddydd Sul 19 Mehefin, dyma rai syniadau am anrhegion Sul y Tadau.

Rygbi RugbySuper

I ddathlu ein penblwydd yn 1 oed rydym yn cynnig gostyngiad o 15% ar ein fframau a llwyau gan ddefnyddio Horray1. Os nad ydych yn gallu gweld beth chi’n edrych amdano arlein, danfonwch neges aton ni a wnewn ni yn siwr ein bod yn creu darlun addas ar eich cyfer a chynnwys y gostyngiad o 15%. Cynnig yn gorffen 31.5.16

www.bodoli.co.uk

Hwyl am y tro,

BODOLI

Mae’r merched wedi cyrraedd

Hoffem gyflwyno ein detholiad newydd o ladis Tartan Cymreig, y mae dim ond nifer gyfyngedig ohonynt wedi cael eu cynhyrchu.

27_01_2016_Bodoli_63

Mae pob Ladi yn gwisgo sgert o dartan teuluol Cymreig. Caiff y brethyn ei wehyddu ym Melin Wlân Cambria yn Llanwrtyd, Canolbarth Cymru (wedi’i drwyddedu i’r Ganolfan Tartan Cymreig).

27_01_2016_Bodoli_59-2

Mae’n casgliad yn cynnwys yr enwau teuluol Cymreig canlynol; Jones, Davies, Evans, Williams a Thomas.  Rydym yn defnyddio tartan Dewi Sant hefyd.

Mae gan bob un o’r Ladis rif unigryw a bydd pob un yn dod gyda thystysgrif sy’n profi ei dilysrwydd.

27_01_2016_Bodoli_36

 

Byddwn yn cynhyrchu 100 o bob dyluniad. Fydd rhain ar gael i brynnu ar Dydd Gwyl Dewi ymlaen.Yn y pen draw, bydd yr holl gyfenwau Cymreig y mae ganddynt eu tartan eu hunain ar gael yn y detholiad hwn.  Os hoffech archebu eich un chi ymlaen llaw nawr, cysylltwch â BODOLI trwy anfon e-bost at [email protected] neu ffonio 07967 103 275.

Blwyddyn Newydd Dda 2016

Yn gyntaf diolch am cefnogi BODOLI yn 2015. Gobeithio byddwn gallu temtio chi a cynnyrch newydd yn 2016.

Fe fyddwn yn lawnsio argraffiadau cyfyngedig yn ystod y misoedd nesaf. Wnewn ni rhoi gwybod i chi mor gynted a bod nhw yn barod fel eich bod gallu archebu un os hoffech.

Cofiwch Santes Dwynwen ar y 25ain o Ionawr. Mae nifer o anrhegion unigryw gyda ni ar eic h cyfer. www.bodoli.co.uk

 

 

 

  2016-01-03 20.12.53

Mae ein dyddiadur yn llenwi gyda partion plant, grwpiau Merched y Wawr a Gwawr, a hyd yn oed cwpwl o partion plu.

Rydym yn cyffrous i weld beth bydd 2016 yn dod i BODOLI. Pob dymuniad ar gyfer 2016.

 

 

 

Penblwydd Hapus i ti!!

Penblwydd Hapus i ti, Penblwydd Hapus i ti!!!! Rydym nawr yn cynnig partïon plant BODOLI.
Cawsom llawer o sbort a sbri yn ein parti cyntaf gyda Casi a oedd yn 8 mlwydd oed. Daeth 13 o ferched yn llond brwdrydedd i greu eu darn o waith celf cerrig bychain eu hunain mewn ffram.


Buom yn addurno’r y gweithdy gyda baneru a balwns ar eu cyfer. Roedd pob plentyn yn cael gwisgo ffedog BODOLI cyn iddynt ddechrau.


Fe groesawodd BODOLI pawb i’r gweithdy, a dangos yr amrywiaeth o fframau roedd hi wedi creu. Dangosodd Rhiannon sut mae creu llun ac esbonio beth oedd y wahanol cerrig yn cael eu defnyddio ar gyfer.


Roedd y plant methu aros i ddechrau. Roedd syniadau gret gyda’r plant. Cawsom amrywiaeth o ddyluniau o Siôn Corn, i bêl droed i ein teulu ni. Cafodd y plant cyfle i ddewis cerrig eu hun, peintio, addurno gyda ffelt a darnau o bren.


Tra bod y gwaith yn sychu ar ôl gludo, cafodd y plant brechdannau (roedd mam Casi wedi paratoi) a chanu Penblwydd Hapus iddi.


Roedd y plant methu aros i rhoi fframyn am eu gwaith a roeddent wrth eu bodd gyda’r ffram a chael bag BODOLI i fynd adref gyda nhw.

12207929_10153647573662158_1819941600_n


Mae’r pecyn parti yn cynnwys gwahoddiadau, creu ffram, mynd adref a’r ffram a bag BODOLI, ystafell wedi addurno ar eich cyfer a diodydd yn ystod y parti. Mae parti fel arfer yn parhau am 2 awr a cost am 10 plentyn yw £150. Am fwy o wybodaeth am bartion plant neu i weld o am dyddiadau ar gael cysyllltwch â ni ar
[email protected]

Rydym hefyd yn cynnal partion plu, neu parti’s ar gyfer oedolion- os ydych am creu un eich hun!!!

Hip-ip Hwre!!!

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Noson Ladis – Fizz a Hwyl!!!

Wel rydym wedi cael penwythnos cyffrous iawn gyda ein noson cyntaf ni ar gyfer y Ladis ar Nos Wener 30ain o Hydref. Daeth dros 60 o ladis i ymweld â’r gwiethdy ac hefyd i ddechrau eu siopa Nadolig. Cofiwch dimond 8 wythnos tan Nadolig. Os mae gennych unrhyw diddordeb yn y cynnyrch yma ewch i www.bodoli.co.uk neu danfonwch ebost i [email protected]

 

Ar y noson gwnaethon lawnsio rhai cynnyrch newydd sydd nawr ar werth gan BODOLI. Cynnyrch Harddwch Organeg gyda labeli Cymraeg. Mae’r setiau yn cynnwys Sgwrio’r Corff, Menyn Corff a Balm Dwylo mewn bag cotwn BODOLI am £16.50. Mae yna dau ddewis o rain Oren a Leim neu Oren, Rhosyn Mynawyd y Bugail a Phatsiwli. Mae hefyd gyda ni Balm gwefus yn Oren neu Lemon a Leim am £4.95 yr un.

Beauty products

Yn boblogaidd ar y noson oedd ‘Allwedd Hud Sion Corn’. Mae rhain yn gwerthu am £9.95. Anrheg lyfli ar gyfer eich plant i esbonio sut mae Sion Corn yn dod mewn i’r tŷ os nag oes simne gyda chi. Roedd sawl archeb wedi cael eu gwneud ar gyfer yr addurniadau coeden Nadoliog; llwyau wedi personoli gyda Nadolig Cyntaf (enw plentyn) 2015. Mae rhain yn £16.00 yr un.

Santa Magic key My first Xmas tree decoration

Heb anghofio ein fframau poblogaidd. Roedd sawl dyn eira wedi cael cartref newydd ar ôl y noson. Mae rhain yn £55.00 yr un, eto gallwn personoli.

 

Snowman frame

Fe fydd BODOLI ar agor yn hwyr Nos Iau 10, 17 o Rhagfyr ar gyfer siopa Nadolig funud olaf.Os mae gennych unrhyw diddordeb yn y cynnyrch yma ewch i www.bodoli.co.uk neu danfonwch ebost i [email protected] 

 

 

Hwyl am y tro.

 

Briodferched a BODOLI

Cawsom ddiwrnod hyfryd yn cwrdd â phriodferched prydferth yn y Ffair Briodas Dydd Sul yng ngwesty Llwyn Iorwg yng Nghaerfyrddin. Mae’r digwyddiad arbennig yma yn rhoi cyfle i fusnesau lleol i hyrwyddo’u busnesau ac i gynnig eu gwasanaethau mewn partion priodas. Roeddwn yn ffodus i gael stondin ac i arddangos ein nwyddau. Y newyddion cyffrous oedd bod BODOLI wedi ehangu ac hybu nwyddau newydd ar gyfer priodasau. Mae priodferched yn edrych am rywbeth newydd a gwahanol trwy’r amser, felly roedd gennym ni anrhegion unigryw fel balm gwefus organig, olew eillio organig, llwyau wedi stampio a siocledi wedi’u printio. Roedden nhw i gyd yn boblogaidd iawn ynghyd â’r ffram briodas i arwyddo gyda’r briodferched. https://www.bodoli.co.uk/cy/product/wedding-signing-frame/

Yn well na lyfr mewn bocs yn yr atig yn llawn negeseuon, arddangoswch y negeseuon mewn ffram personol yn eich cartref fel atgof o’r diwrnod arbennig. Rydyn ni nawr yn cynnig gostyngiadau ar lwyau fel rhoddion, felly os ydych yn hoffi’r llwyau yma, gallwch cael enwau y gwesteion wedi’u stampio a rhoi rhywbeth arbennig iddyn nhw fel ffordd o ddweud diolch. Ydych chi’n cael ffwdan i brynu anrheg ar gyfer y gwas priodas neu tad y priodfab? Rydyn ni nawr yn gwerthu dolennau llewys arian personoledig. Byddwch yn draddodiadol a chael llythrennau arnyn nhw neu byddwch yn fentrus? https://www.bodoli.co.uk/cy/product/dolennau-llewys-arian/

Edrychwch ar ein gwefan ar gyfer mwy o roddion priodas. https://www.bodoli.co.uk/cy/categori-cynnyrch/rhoddion-priodas/

 

 

 

 

 

 

 

 

Teithiau , Coffi a Chacen

Rydym wedi bod ar sawl taith diddorol yn y car i drosglwyddo fframau BODOLI ar draws Cymru.

Mae siop BODLON wedi cael ei disgrifio fel y lle orau i gwrdd ,bwyta a siopa yng Nghaerdydd. Wedi ‘i leoli yng nghanol Yr Eglwys Newydd, dyma siop sy’n denu cwsmeriaid ar draws y byd yn cynnwys enwogion fel Mathew Rhys a’r delynores talentog Catrin Finch. Mae yna amrywiaeth o anrhegion Cymreig hardd a phethau i’r cartref ar werth yn y siop, felly’r tro nesaf rydych chi yng Nghaerdydd gwnewch yn siwr eich bod yn ymweld â Bodlon. www.bodlon.co.uk

Mae Lowri Steffan wedi ail agor siop Dots yn Aberystwyth. Mae nifer o bobl lleol yn gyffrous iawn i weld y siop ffantastig yma yn ail agor. Wnaeth Dots agor ei ddrysau i’r cyhoedd heddiw. Mae yna casgliad enfawr o fframau BODOLI yn cael eu arddangos yn y siop, ac rydym yn edrych ymlaen i hybu ein fframau arwyddo priodas yna hefyd. Mae Dots yn cynnig steilio ar gyfer priodasau ac hefyd yn hurio pethau priodasol. www.stiwdiodots.co.uk

Sgwn i le fydd ein taith nesaf?

 

 

 

 

 

 

BODOLI yn helpu codi £840 i Ysbyty Tywysog Philip

Dyna beth oedd wythnos cyffrous iawn yn dathlu Cymru yn ennill eu gemau yng Nghwpan y Byd Rygbi. Cefais y fraint o gwrdd â seren rygbi lleol, Gareth Davies a wnaeth sgorio yr unig cais yn y gêm yn erbyn Lloegr a chais cyntaf yn erbyn Fiji. Fe wnaeth Gareth Davies cytuno i arwyddo fframau ar gyfer achos dda. Fe wnes i hefyd cwrdd a’i gi enwog Pete, roedd e’n gyfeillgar iawn ac yn hoff o fy nhraed!!!!

Roedd Gwesty’r Emlyn yng Nghastell Newydd Emlyn yn cynnal noson Menywod “Think Pink” ar Nos Wener yr 2ail o Hydref i godi arian i Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli. Roedd y noson yn llwyddiannus iawn gyda nifer o fenywod lleol yn cefnogi’r noson.

IMG_1024

 

 

 

 

Roedd dau fframyn rygbi wedi arwyddo yn yr ocsiwn gan Bodoli, wnaeth un cael ei werthu am £220 a’r llall am £185. Roedd tair fenyw arall eisiau’r un fframyn felly bydd rhaid i BODOLI cwrdd â Graeth Davies unwaith eto i’w arwyddo. Roedd cyfanswm y fframau wedi codi £840 tuag at Uned Cancr y Fron yn Llanelli.

Roedd BODOLI yn falch i gefnogi elusen lleol o’r fath.